
High flying Mold Alexandra were the visitors to Maes Tegid last Saturday and produced an excellent performance to deservedly beat a dismal home showing by the Lakesiders.
There is still some excuse for the Bala performance with 6 regular first team squad players missing again through injury but that injury list does not look like improving for a good few weeks and the squad must improve if we are to stay challenging at the top of the Novira Cymru North.
The home side began the match well and went ahead on 19 minutes with an exquisite finish from Okera Simmonds who lobbed the visitors keeper from 20 yards. The lead did not last long and the defensive frailty from set pieces again came to haunt the home side as they were unable to deal with a corner and the ball was scrambled in by Luca Hogan for the equaliser. Despite further pressure on the Mold goal the match remained tied at half time.
Again Bala came out for the second period on the front foot and went ahead on 51 minutes when a fine run by Ozzy Abadaki found Charlie Fisher who hit home from close range. The inability to hold on to a lead was emphatically demonstrated again when the visitors replied with 2 goals in the space of 2 minutes only 5 minutes after falling behind. Lucas Gregson and Sam Duffy scored from more set pieces and left the home side deflated and devoid of any real idea of how to get back into the match. No real chances were created by Bala and Lucas Gregson scored again on 83 minutes to send the large Mold contingent wild with delight.
It was a poor performance and this must be addressed quickly as we take on Cefn Albion at home this Tuesday evening in the NEWFA Cup and then travel to another daunting task on Saturday in Caersws.
Daeth Y Wyddgrug, sydd wedi bod yn hedfan yn uchel yn y gynghrair i Faes Tegid ddydd Sadwrn diwethaf a sicrhau buddugoliaeth gwbl haeddiannol yn erbyn tîm Bala a gafodd ddiwrnod siomedig iawn.
Mae rhywfaint o esgus dros berfformiad y Bala, gyda chwe aelod rheolaidd o’r garfan gyntaf yn absennol unwaith eto oherwydd anafiadau. Yn anffodus, nid yw’r rhestr anafiadau’n edrych fel pe bai’n lleihau unrhyw bryd yn ystod yr wythnosau nesaf, ac mae’n amlwg bod angen i’r garfan gryfhau os yw’r Bala am barhau i herio ar frig Novira Cymru North.
Dechreuodd y tîm cartref yn gadarn ac aethant ar y blaen ar ôl 19 munud gyda gôl wych gan Okera Simmonds. Cododd y bêl dros ben gôl-geidwad yr ymwelwyr o bellter o 20 llath i roi’r Bala ar y blaen.
Fodd bynnag, ni fu’r fantais yn para’n hir. Unwaith eto, daeth gwendid y Bala wrth amddiffyn gyda’r tîm cartref yn methu ag ymdopi â chic gornel. Ar ôl tipyn o sgrialu yn y cwrt cosbi, llwyddodd Luca Hogan i roi’r bêl yn y rhwyd i lefelu’r sgôr.
Er gwaethaf mwy o bwysau gan y Bala ar gôl yr Wyddgrug, roedd y ddau dîm yn gyfartal ar hanner amser.
Unwaith eto, daeth y Bala allan yn gryf ar ddechrau’r ail hanner, ac aethant ar y blaen ar ôl 51 munud. Rhediad gwych gan Ozzy Abadaki yn dilyn gan bas i Charlie Fisher, a orffennodd yn bwyllog o bellter agos i roi’r Bala ar y blaen unwaith eto.
Ond unwaith eto, methodd y Bala dal gafael ar eu mantais. O fewn dim ond dau funud, ac union bum munud ar ôl i’r tîm cartref fynd ar y blaen, roedd yr Wyddgrug wedi troi’r gêm ar ei phen gyda dwy gôl.
Sgoriodd Lucas Gregson a Sam Duffy unwaith eto, gan adael y Bala yn ddigalon ac yn brin o atebion wrth geisio dod yn ôl i’r gêm.
Methodd y Bala â chreu unrhyw gyfleoedd gwirioneddol i fynd yn ôl ar delerau cyfartal, ac fe gwblhaodd Gregson ei ddiwrnod da gyda’i ail gôl ar ôl 83 munud. Anfonodd hynny’r nifer fawr o gefnogwyr yr Wyddgrug a oedd wedi teithio i Faes Tegid i ddathlu’n wyllt.
Roedd yn brynhawn siomedig i’r Bala, ac mae angen rhoi’r perfformiad hwnnw tu ôl i ni yn gyflym wrth i ni droi ein sylw at Gwpan NEWFA. Mae Cefn Albion yn ymweld â Maes Tegid nos Fawrth, cyn i’r Bala wynebu taith anodd arall ddydd Sadwrn i wynebu Caersws
