Match report: Llanuwchllyn 3, Bala Town 3

The eagerly anticipated local derby took place at Cae Llan on Saturday with players and spectators alike having to brave Storm Boelo.

The pitch was in excellent condition considering the atrocious weather conditions but the howling gale and driving rain made playing football extremely demanding. The hosts got off to a superb start when the Bala keeper mistimed his challenge and Danny Holland scored from the penalty spot after only 2 minutes. Llanuwchllyn had the wind at their backs but Bala responded well and equalised on 8 minutes with a deflected shot from John Owen.

Despite facing the gale the visitors went ahead on 28 minutes with an excellent goal from Tomas Jones who was put through by a defence splitting pass by John Owen. Bala then held on until half time to go to the interval with a 2-1 lead.

Llanuwchllyn then had the daunting task of facing an ever increasing gale but responded well to this test and equalised on 56 minutes when Bala failed to clear their lines and Ilan Ap Gareth fired home from close range.

The visitors retook the lead on 67 minutes when a Charlie Fisher attempt sailed over Rob Dascalu in the Llanuwchllyn goal with a huge help from the gale force wind. The visitors then had Will Bell see a straight red card and this gave the home side the momentum to search for an equaliser.

It looked like Bala would resist the mounting pressure but another failure to clear their penalty area saw the ball fall at the feet of Aled Parry who fired a superb shot into the top corner in the 92nd minute to bring the sides level. It was a fascinating encounter and everyone should be praised for attending Cae Llan in such inclement weather conditions.

Bala now face a trip to table topping Brickfield next Saturday.


Cynhaliwyd y ddarbi leol y bu disgwyl mawr amdani ar Gae Llan ddydd Sadwrn, gyda’r chwaraewyr a’r gwylwyr fel ei gilydd yn gorfod wynebu Storm Boelo. Roedd y cae mewn cyflwr rhagorol o ystyried y tywydd ofnadwy, ond roedd y gwynt cryf a’r glaw trwm yn gwneud chwarae pêl-droed yn her enfawr.

Cafodd y tîm cartref ddechrau gwych pan fethodd golwr y Bala ag amseru ei her yn gywir, a sgoriodd Danny Holland o’r smotyn wedi dim ond dwy funud. Roedd gan Lanuwchllyn y gwynt o’u cefnau, ond ymatebodd y Bala yn dda gan gyfartalu yn yr wythfed munud gyda saethiad wedi’i wyro gan John Owen.

Er gwaethaf wynebu’r gwynt cryf, aeth y tîm oddi cartref ar y blaen yn y 28ain munud gyda gôl ragorol gan Tomas Jones, a gafodd ei chwarae drwodd gan bêl dda mi wnaeth hollti’r amddiffyn gan John Owen. Yna llwyddodd y Bala i ddal eu gafael ar y fantais tan yr egwyl, gan fynd i’r hanner amser ar y blaen o 2–1.

Roedd gan Lanuwchllyn wedyn y dasg heriol o wynebu gwynt a oedd yn cryfhau’n barhaus, ond ymatebodd y tîm yn dda i’r her hon a chyfartalu yn y 56ain munud pan fethodd y Bala â chlirio’r bêl, gan ganiatáu i Ilan Ap Gareth daro’r bêl i’r rhwyd o bellter agos.

Adenillodd y tîm oddi cartref y blaen yn y 67ain munud pan hedfanodd ymgais Charlie Fisher dros Rob Dascalu yng ngôl Llanuwchllyn, gyda chymorth sylweddol gan y gwynt cryf iawn.

Yna cafodd y Bala ergyd arall pan ddangoswyd cerdyn coch syth i Will Bell. Rhoddodd hyn ysgogiad i’r tîm cartref fynd ati i chwilio am gôl gyfartal. Roedd yn edrych fel pe bai’r Bala yn mynd i wrthsefyll y pwysau cynyddol, ond ar ôl methiant arall i glirio’r bêl o’u hardal gosb, disgynnodd y bêl wrth draed Aled Parry. Trawodd yntau ergyd ragorol i gornel uchaf y rhwyd yn y 92ain munud i sicrhau bod y ddau dîm yn gyfartal.

Roedd yn gêm hynod ddiddorol, a dylid canmol pawb a ddaeth i Gae Llan i wylio’r gêm mewn tywydd mor erchyll.

Mae’r Bala bellach yn wynebu taith i chwarae yn erbyn Brickfield, sydd ar frig y tabl, ddydd Sadwrn nesaf.

Share
go top